Cacwn prin iawn

Cacynen felen fawr  Bombus distinguendus

Mae’r breninesau, y gweithwyr a’r gwrywod i gyd yn felyn eu lliw, gyda band nodedig o flew du’n ymestyn ar draws y thoracs. Yn y gwrywod, mae blew melyn yn gymysg â’r band du fel rheol, ac mae blew melyn amlycach ar y wyneb. Dim ond ar arfordir y gogledd ac ynysoedd yr Alban mae’r rhywogaeth yma i’w chanfod erbyn hyn, ac yn Iwerddon.


Cardwenynen feinlais  Bombus sylvarum

Mae gan y breninesau, y gweithwyr a’r gwrywod i gyd flew melyn golau ar y thoracs, gyda band tywyll du neu frown yng nghanol y thoracs, rhwng gwaelod yr adenydd. Blew melyn neu sinsir golau sydd ar yr abdomen yn bennaf, ond efallai bod bandiau tywyllach ar ei hyd. Sinsir neu goch yw’r gynffon, ond gall bylu i fod yn eithaf gwan. Cliciwch yma i lawrlwytho’r daflen wybodaeth am y Gardwenynen feinlais (pdf 1.2mb).

“Bumblebees are key factors in our wildlife. If they disappear many of our plants will not bear fruit. I am proud to be associated with the Bumblebee Conservation Trust”.

David Attenborough
OM CH FRS

View our Flickr
Bumble kids